logo

ICF Sesiynnau Blas ar yr Ŵyl

Sesiynnau cael blas yr Ŵyl: dewch i ymrafael â chlai!

Wrth i’r ŵyl nesau, rydym yn cynnig blas o’r hyn y mae’r ŵyl yn ei gynnig, felly ymunwch ag aelodau o dîm yr ŵyl am ddwy sesiwn pop-up am ddim lle gallwch chi faeddu eich dwylo a gwneud rhywbeth allan o glai. Cynhelir y sesiynnaul yn y bandstand ar brom Aberystwyth rhwng 10:00am a 2:00pm ar ddydd Sul 1 Mehefin, ac yn Hwb Penparcau ar ddydd Sul 15 Mehefin – galwch heibio a chymryd rhan yn y gweithgaredd hwyliog hwn i bob oed. O dan arweiniad arbenigol, gall unrhyw un sy’n ddigon dewr roi cynnig ar daflu pot ar olwyn eu hunain. 

Bydd popeth a wneir yn ystod y sesiynau dros-dro hyn yn cael ei danio mewn odyn gasgen draddodiadol yn ystod y brif ŵyl a gellir ei gasglu ddydd Sul 29 Mehefin.

Darperir gwybodaeth lawn am yr ŵyl ei hun yn y sesiynnau, a bydd cynnig arbennig am docynnau gostyngol i drigolion Aberystwyth a’r cylch.

Am gyfle gwych i bawb – ac efallai y byddwch chi’n darganfod eich hoff beth newydd!

 

Sesiwn Clai Am Ddim, Bandstand Aberystwyth 10:00am i 2:00pm Dydd Sul 1 Mehefin

Sesiwn Clai Am Ddim, Hwb Penparcau 10:00am i 2:00pm Dydd Sul 15 Mehefin

 

Wedi’i cefnogi gan Gyngor Tref Aberystwyth