2023 Cystadleuaeth Ffilm Fer ICF

2023 Cystadleuaeth Ffilm Fer ICF Gwahoddwyd cyflwyniadau gan wneuthurwyr ffilm/artistiaid amlddisgyblaethol ar gyfer ffilmiau byr lle mae’r prif ffocws ar serameg e.e. ffilmiau am y broses o wneud serameg, ffilmiau am grochenwaith neu seramegwyr fel pwnc, delwedd symudol/animeiddio lle mae serameg neu glai yn brif nodwedd. Bydd y ffilmiau a ddewiswyd yn cael eu dangos yn y Llygad trwy gydol y penwythnos – a cyfle i’r cyhoedd bleidleisio dros eu ffefryn a’r ennillydd yn derbyn gwobr o £300 gan Top Pot Supplies. Noddir gan Top Pot Supplies Cystadleuaeth Ffilm Fer ICF – yr ymgeisiadau llwyddiannus Richard Innes ‘Brittle Skin’ 2021 UK Laura Miner ‘Carmen Sanchez’ 2022 Basque Country Jo Pearl ‘WhyTheFace?’ 2019 UK – ENILLYDD Jo Pearl ‘Gasping for Air’ 2022 UK Laida Zapre ‘Dragoiak’ 2023 Basque Country ***** Y Broses Ymgeisio [caewyd 1 Mai 2023] Cyflwyniad i’r Ffilmiau Byr o’r Ŵyl Serameg Ryngwladol ar Vimeo. Rydym yn gwahodd cyflwyniadau gan wneuthurwyr ffilm/artistiaid amlddisgyblaethol ar gyfer ffilmiau byr lle mae’r prif ffocws ar serameg e.e. ffilmiau am y broses o wneud serameg, ffilmiau am grochenwaith neu seramegwyr fel pwnc, delwedd symudol/animeiddio lle mae serameg neu glai yn brif nodwedd. Roedd y gystadleuaeth ar agor yn rhyngwladol a bydd y ffilmiau a ddewiswyd yn cael eu dangos yn y Llygad trwy gydol y penwythnos, a hefyd yn y sinema yn ystod amser cinio dydd Sadwrn a dydd Sul. Bydd y cyhoedd yn gallu pleidleisio dros eu ffefryn yn y blwch arbennig ar Ddesg Dderbynfa’r Ŵyl. Fel ysbrydoliaeth, dyma derfynwyr cystadleuaeth 2019: 1. R&A Collaborations (y DU/UK) Paul Wearing: Order and Chaos Order & Chaos – Paul Wearing gan R&A Collaborations ar Vimeo. 2. Katie Spragg (y DU) In the Meadow In the Meadow gan Katie Spragg ar Vimeo. 3. David Mar Østrup Jensen (Denmarc a Siapan) The Japanese Kiln 4. Jack Robinson(y DU) Ceranimation (cliciwch ar y linc a bydd yn agor yn Vimeo) ceranimation gan John Robinson ar Vimeo. 5. Jack McGoldrick (y DU) Paul Young Station pottery 6. Anja Meeusen (Gwlad Belg) My Quest (06:11) 7. Oliver Biggs (y DU) Mark Ciavola – Potters Thumb Mark Ciavola – Potters Thumb gan Oliver Biggs ar Vimeo. 8. Teresa Greenway (y DU) Taith i’r Mor Taith i’r Môr gan Tess Greenway ar Vimeo.