Cyfle ychwanegol cyffrous i fynychwyr yr Ŵyl
> Gweithdy kintsugi gydag Iku Nishikawa Dydd Gwener 27 Mehefin 11:00-14:00
Wedi’i geni yn Kochi yn Japan a bellach yn byw yn Rhydychen, dysgodd Iku gelfyddyd kintsugi gan y meistri Siapaneaidd Shimode Muneaki a Sato Takahiko. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi datblygu technegau kintsugi i wneud y dull adfer hardd hwn yn fwy hygyrch y tu allan i Siapan.
Bydd Iku yn darparu’r offer a’r deunyddiau. Gall fynychwyr y dosbarth ddod â’u darn eu hunain i’w atgyweirio neu brynu plât bach (£7.00) i greu trawsnewidiad cyffrous. Cost y gweithdy yw £140 (nid yw’n cynnwys tocyn i’r ŵyl). Mae’r nifer yn gyfyngedig i 12. Sicrhewch eich lle i ymuno â dosbarth celf kintsugi trwy wefan Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth yma >>> Gweithdy Kintsugi gyda Iku Nishikawa
> Gweithdy 4-diwrnod adeiladu odynau gyda’r arbenigwr ac awdur Joe Finch Dydd Mercher 25 – Dydd Sadwrn 28 Mehefin
Mae Joe wedi bod yn ymwelydd rheolaidd yng Ngŵyl Serameg Ryngwladol ers blynyddoedd lawer, gan dynnu ar brofiad gwirioneddol fyd-eang o adeiladu odynau. Yn y dyddiau cyn agoriad yr ŵyl, ymunwch â Joe ar weithdy ymarferol 4 diwrnod ar adeiladu, pentyrru a thanio odyn soda wedi’i thanio â phren o’i gynllun ei hun. Gall fynychwyr ddod â’u potiau crochenwaith bisque eu hunain i’w gwydro a’u tanio.
Y ffi am y cwrs yw £300 (nid yw’n cynnwys tocyn i’r ŵyl). Lleoedd cyfyngedig – 6 yn unig. Sicrhewch eich lle i ymuno â’r gweithdy adeiladu odynau trwy wefan Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth yma >>> Gweithdy Adeiladu Odyn gyda Joe Finch