logo

Frederick Olsen (UDA)

Fred Olsen

Cyfeirir at Frederick Olsen fel eicon ymhlith crochenwyr tanio coed. Mae wedi bod yn dylunio ac yn adeiladu odynau arbenigedd ledled y byd ers y 1970au. Fo yw awdur THE KILN BOOK (1973) sydd bellach yn ei bedwerydd argraffiad. Cymerodd ran yn yr ICF yn 2001 ac mae’n dychwelyd yn 2017 i gydweithio ag Alexandra Engelfriet. Bydd yn dylunio ac yn adeiladu odyn arbenigedd er mwyn tanio cerflun twmpath newydd Alexandra Engelfriet.

Date: October 16, 2020