logo

Philip Eglin: Slipping the Trail

Phil Eglin

Astudiodd Philip Eglin yn Bolytechnig Swydd Stafford a’r Coleg Celf Frenhinol, Llundain. Daeth i’r amlwg gyntaf fel seramegydd o Brydain o bwys yn y 1990au a nodwyd am ei gerfluniau ffigurol a’i ddarluniau bywiog ar serameg. Dyfarnwyd iddo’r Wobr Jerwood am y Celfyddydau Cymhwysol yn 1996. Mae David Whiting wedi ei alw’n ‘ysbeiliwr amgueddfeydd’ ond mewn gwirionedd mae ei ysbrydoliaeth yn dod o gymysgedd o ffynonellau amrywiol, o luniau gan blant, ysgrifennu a phecynnu plastig, hyd at gerfiadau pren Gothig, paentiadau’r Dadeni, porslen Tsieineaidd a serameg gwerin. Bydd yn siarad am ei waith, ei fenthyciadau eclectig a datblygiad y prosiect gyda Phrifysgol Aberystwyth yn ymateb i’r crochenwaith slip yn y casgliad.

Date: October 17, 2020