logo

Ponimin M Hum (INDONESIA)

Ponimin M Hum

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Ponimin M. Hum yn dod o Indonesia; mae’n creu gweithiau a masgiau cerfluniol cywrain, yn aml gan gynnwys elfennau o ddawns yn ei gyflwyniadau. Yn rhan o ddiwylliant traddodiadol Indonesia, mae ar yr un pryd yn ymwybodol iawn o fywyd cyfoes ledled y byd; mae ei weithiau, sydd wedi’u gwreiddio yn nhraddodiadau ei famwlad, yn feddylgar ac yn ddeallus yn ogystal â bywiog iawn. Ochr yn ochr â’i ymarfer serameg mae ar hyn o bryd yn ddarlithydd yn Adran Celf Gain Prifysgol Talaith Malang. “Yn gyffredinol, mae fy ngwaith celf yn canolbwyntio ar syniadau a ffurfiau o ddiwylliant lleol Indonesia, rwy’n eu defnyddio’n symbolaidd.”

Date: October 18, 2020