logo

Theo Harper (Symposiwm PhD)

theo harper

Mae ymarfer cerfluniol Theo yn cwestiynu crefft a phrosesau gwneud, gan ddyfeisio ffyrdd yn reddfol i ryddhau naratif mynegiannol. Mae’n archwilio ac yn gofyn cwestiynau pwysig am ddeunyddiau, prosesau a thirweddau traddodiadol a chyfoes, gan geisio deall yr amgylcheddau amrywiol rydyn ni’n byw ynddynt. Mae’r gwaith yn tynnu sylw at y cyfarfod rhwng bodolaeth fewnol a lleoliad allanol ac yn rhoi’r broses o greu yng nghanol y cyfarfod hwn.

Astudiodd Theo Gelf Gain ym Mhrifysgol Newcastle a Cherflunwaith yn y Coleg Celf Frenhinol, Llundain. Mae bellach yn Fyfyriwr PHD a ariennir gan AHRC yn y Ganolfan Gwydr Cenedlaethol yn Sunderland. Mae’n byw ac yn gweithio yn Northumberland.

Crynodeb:

Dechreuodd fy ngwaith ym maes adeiladu clai allan o’r angen i ddod o hyd i darddiad wrth wneud. Trwy feddwl trwy ddeunydd, esblygodd wedyn i mewn i broses torchi myfyriol a oedd yn bodoli fel ffordd i feddwl trwy syniadau yn ymwneud â fy ymarfer cerfluniol ehangach. Mae’r broses torchi wedi trawsnewid yn groesiad o batrymau argraffu dysgedig a gymerwyd o argraffu 3D a dealltwriaeth organig-ffigurol o ffurf fynegiadol a chrefft a ddysgwyd dros oddeutu 8 mlynedd.

Rwy’n bwriadu cynnal y cysylltiad rhwng torchi hefo’r dwylo fel bod y sgwrs rhwng y corff ac argraffu 3D yn cael ei chadw’n ganolog i’r ymchwil, gan eu bod mewn ffyrdd gwahanol yn brosesau personol, perfformiadol ac yn llafurus.

Yn achos llawer o brosesau awtomataidd, mae swyddogaeth a chysylltiad y corff â deunydd wedi diflannu, yn yr achos hwn yr argraffydd serameg 3d. Rydych yn gallu arsylwi ar y cysylltiad ag ymddangosiad, athroniaeth broses ac ecoleg o’r tu allan lle mae prototeipio mewn argraffu 3D wedi dod bron fel gwylio ‘esblygiad ar waith’ (Harper et al 1977). Y bwlch a’r newid persbectif hwn fydd yn bwnc canolog yn yr ymchwil.

Mae’r arteffactau sy’n cael eu cynhyrchu yn esblygu wrth i mi arbrofi mwy gyda graddfa, ffurfiau cymhleth, a sut mae’r broses o wneud yn gysylltiedig ag ardaloedd cyfrifiadol a roboteg argraffu 3D serameg. Mae’r gwaith yn ymwneud â sut mae awtomeiddio a chyffredinolrwydd gwneud marciau wrth argraffu 3D yn safoni’r gwrthrychau y mae’n eu creu trwy ddilyn y rheolau a nodwyd gan awdur y peiriant a gwahanol raglenni sleisio. Mae popeth felly yn fesuradwy.

Mae’r rheolau hyn ar gyfer ymarferydd creadigol yn cyfyngu ar y cwmpas ar gyfer mynegiant wedi ei deimlo ond hefyd yn creu ffin i ddadlau yn ei herbyn. Y broses feddwl hon sy’n creu ffrâm ar gyfer ffurf fwy mynegiadol, hybrid o wneud, sy’n cwestiynu’n uniongyrchol syniadau traddodiadol ymgorfforiad.

Date: June 17, 2019