logo

Thiébaut Chagué (FFRAINC)

Thiebaut Chague

Treuliodd Thiébaut Chagué ddwy flynedd a hanner yn Lloegr, yn gweithio yn stiwdio Richard Batterham a hefyd yn Wenford Bridge gyda Michael Cardew. Mae’n creu darnau cerfluniol unigryw o glai caled wedi’u tanio â phren. Yn 2009 adeiladodd gerflun clai anferth a’i danio yng nghwrt Amgueddfa Victoria ac Albert i ddathlu agoriad ei Orielau Serameg newydd. Bydd yn arddangos techneg adeiladu gydag elfennau wedi’u taflu a slabiau.

Date: October 17, 2020