logo

Velimir Vukicevic (SERBIA)

Velimir Vukicevic

Efallai bod Velimir Vukicevic yn fwyaf adnabyddus am ei ddarnau porslen geometregol a ‘trompe-l’oeil’. Mae ei ffocws ar greu gwrthrychau cerfluniol ac mae hefyd yn mwynhau paentio platiau porslen. Yn yr Ŵyl bydd yn rhannu ei gredoau y gellir defnyddio llawer o weithdrefnau serameg sydd yn cael eu hystyried yn gamgymeriadau technolegol ar gyfer creu dull ac ymarfer personol. “Rwy’n ceisio meddwl am antur y dyfodol ac ymdrechu tuag ati. Hoffwn gredu na fydd datblygiad deinamig gwareiddiad dynol a serameg fel ei ran annatod yn cefnu ar unigoliaeth, creadigrwydd, dychymyg, emosiwn, na’r teimlad am glai. Mae’r rhinweddau hynny o bwys mawr i mi a fy ngwaith. ” www.velimirvukicevic.com

Date: October 15, 2020