logo

Virginia Scotchie (UDA)

Virginia-Scotchie

Cerflunydd serameg yw Virginia Scotchie sy’n cael ei ysbrydoli gan wrthrychau bob dydd: cwpan, bowlen, twndis, teganau ei phlant. Yn chwareus ac yn feddylgar, mae ei gweithiau celf serameg wedi adeiladu â llaw yn ‘cymylu’r llinell rhwng llestr a cherflun.’ Yn ystod ei harddangosiad bydd yn creu ffurfiau wedi’u taflu ar olwyn allan o 4-6 pwys o glai. Bydd y ffurfiau hyn yn cael eu cydosod a’u trefnu i greu gwrthrychau cerfluniol gyda chyfeiriadau at natur yn ogystal â gwrthrychau artiffisial. Scotchie yw Pennaeth Serameg ym Mhrifysgol De Carolina. www.virginiascotchie.com

Date: October 17, 2020