Byddwn yn dethol arddangoswyr ar gyfer Gŵyl Ryngwladol Serameg 2019 ym mis Ionawr 2018. Dyma’ch cyfle i gyflwyno seramegydd sefydledig yr hoffech ei weld yn arddangos eu technegau yn yr ŵyl nesaf a fydd yn cael ei chynnal o’r 05th-07th Gorffennaf 2019. Os hoffech argymell seramegydd, anfonwch y manylion canlynol at:
Sarah Morton aafstaff@aber.ac.uk gyda’r teitl ‘Awgrym Arddangoswr 2019’ yn y maes pwnc.
Cyflenwch:
Enw’r Seramegydd
CV a Bywgraffiad i’r person rydych chi’n ei argymell.
Manylion gweithdai, darlithoedd ac arddangosiadau diweddar y maent wedi’u rhoi.
Disgrifiad byr o’r math o waith neu ddull adeiladu odynau y maent yn adnabyddus amdano.
3 neu 4 delwedd o’u gwaith diweddar.
Llythyr eglurhaol yn cynnwys y manylion canlynol:
E-bost / cyfeiriad yr arddangoswr arfaethedig
Cyfeiriad gwefan
Iaith a siaredir gan yr arddangoswr arfaethedig.
Dyddiad cau ar gyfer anfon awgrymiadau: 1af Rhagfyr 2017