Gŵyl Serameg Ryngwladol
02 – 04 Gorffennaf 2021
Cynhelir yr Ŵyl Serameg Ryngwladol nesaf yn 2021 a byddwn yn dethol arddangoswyr yn fuan. Dyma’ch cyfle i gyflwyno enw seramegyddion sefydledig yr hoffech eu gweld yn arddangos eu technegau yn ystod yr ŵyl nesaf a gynhelir ym mis Gorffennaf 2021. ‘Rydym yn derbyn enwebiadau ar gyfer seramegyddion o unrhyw ran o’r byd ac yn croesawu’n arbennig awgrymiadau ar gyfer arddangoswyr o gefndiroedd amrywiol o safbwynt hil a diwylliant.
Pe hoffech argymell seramegydd, a wnewch anfon y manylion canlynol at:
mschmidt@cardiffmet.ac.uk
gyda’r geiriau ‘Awgrym Arddangoswr GSR 2021′ fel teitl.
Rhowch:
Enw’r Seramegydd
Dolen i’w wefan/gyfrifon cyfryngau cymdeithasol
NEU
Curriculum Vitae a 3 neu 4 o ddelweddau o’i waith diweddar.
Hefyd, nodwch pam yr ydych yn enwebu’r person hwn, e.g. manylion o weithdai, darlithoedd neu arddangosiadau a gyflawnwyd ganddynt yn ddiweddar.
Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: Canol nos ar Nos Lun 4ydd Tachwedd 2019.