Ers iddo ddechrau ym 1987, mae’r Ŵyl Rhyngwladol Serameg wedi tyfu i fod yn un o brif ddigwyddiadau serameg y DU. Cafodd yr ŵyl draddodiadol ar y safle ei gohirio yn 2021 oherwydd y pandemig Covid-19. Fodd bynnag, rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod yr ŵyl yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn 2023.
Wedi ei drefnu ar y cyd gan ddau grŵp crochenwyr Cymru, Crochenwyr Gogledd Cymru a Chrochenwyr De Cymru yn ogystal â Phrifysgol Aberystwyth, mae’r ŵyl yn denu dros 1000 o ymwelwyr ar gyfer penwythnos hir o ddathlu serameg. Mae’n cynnig cyfle i athrawon, myfyrwyr, artistiaid serameg, casglwyr, crochenwyr a rhai sy’n caru crefft, i gyfarfod ac astudio gwaith artistiaid serameg o fri, o Gymru, y DU a ledled y byd.
Mae’r ŵyl sy’n cael ei chynnal bob dwy flynedd yn cynnwys arddangosiadau, adeiladu odynau a cherfluniau tanio ysblennydd, sgyrsiau a thrafodaethau, ffilmiau, arddangosfeydd, perfformiadau a darlithoedd yn ogystal â gweithgareddau ymarferol i ymwelwyr gymryd rhan.
Eleni rydym yn cynnig Tocynnau Cynnar gostyngol ar yr un raddfa â phrisiau gŵyl 2019, hyd at Fawrth 31ain 2023.
Cliciwch yma i brynu tocynnau
RHAGLEN 2023
Cofrestrwch i’n cylchlythyr a chadwch llygad allan ar ein cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau’r ŵyl gan gynnwys cyhoeddiadau Arddangoswyr a Rhaglen Ŵyl lawn yn 2023.
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2023 all rights reserved.