Mae bod yn Gynorthwyydd Gŵyl yn gyfle gwych i gymryd rhan yn yr Ŵyl a gweld, cwrdd a gweithio gyda chrochenwyr rhyngwladol blaenllaw. Yn ogystal â gwneud ffrindiau a chwrdd ag unigolion o’r un anian, mae cynorthwywyr yr ŵyl yn ennill sgiliau a phrofiadau. Mae cynorthwywyr yr ŵyl yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant yr Ŵyl, gall y gwaith maen nhw’n ei wneud golygu eu bod nhw’n gweithio’n agos gyda threfnwyr yr ŵyl, staff canolfannau’r celfyddydau, arddangoswyr masnach ac arddangoswyr. Mae’r swyddi sy’n ofynnol yn amrywio’n fawr o waith corfforol fel adeiladu odynau, i ddyletswyddau gweinyddol megis dosbarthu gwybodaeth i gynrychiolwyr. Mae Cynorthwywyr Gŵyl yn dysgu amrywiaeth o sgiliau ac yn ennill profiad rhagorol ar gyfer datblygu gyrfa. Mae’r tasgau sy’n ofynnol yn amrywio’n fawr o waith corfforol i ddelio â’r cyhoedd. Nid oes angen i chi fod yn fyfyriwr neu wedi cwblhau gradd serameg i wneud cais.
Gwybodaeth Cynorthwyydd Gŵyl 2019
Y mathau o ddyletswyddau sy’n ofynnol yw:
Sefydlu’r Ŵyl:
Cynorthwyo Arddangoswyr:
Sefydlu’r Arddangosfa a’r Sêl Cwpanau
Blaen Tŷ/Stiwardio.
Desg blaen.
Cau’r Ŵyl.
Mae’n ofynnol i bob cynorthwyydd helpu i glirio’r safle ar ôl y digwyddiad, – datgymalu odynau a phentyrru briciau, cael gwared â sbwriel ac ati. Bydd hyn yn cynnwys gwaith corfforol ac awyr agored. Dyma un o’r amseroedd prysuraf a bydd angen pawb i gynorthwyo gyda hyn.
Sylwadau gan Gynorthwywyr Gŵyl flaenorol
“Cyfarfûm â chymaint o bobl ryfeddol ac rwy’n teimlo mor hyderus rwan mai serameg yw’r llwybr gyrfa iawn i mi.”
“Wedi fy nhanio gan sgwrs Gareth Mason; cefais sgwrs arbennig iawn gydag aelod o’r cyhoedd – fe wnaeth gwaith Gareth’s ein hysbrydoli i drafod ein profiadau ein hunain gyda chlai yn fanwl. ”
“Roeddwn yn teimlo ei bod yn anrhydedd cael y cyfle i gymdeithasu mewn cymuned mor fawreddog o artistiaid serameg.”
“Gwych – y peth gorau i mi oedd y sgyrsiau damweiniol + cyffrous.”
“Profiad hyfryd – pobl gyfeillgar, artistiaid brwdfrydig – yn gwerthfawrogi’n wirioneddol y rhyddid i siarad a chlywed ganddyn nhw’n bersonol.”
Llinell Amser y Cais:
Rhagfyr 2018: Mae ceisiadau ar agor nawr cliciwch ar y dolenni isod a chwblhewch naill ai’r ffurflen gais Saesneg neu Gymraeg.
Welsh: FFURFLEN GAIS Cynorthwy-ydd yr Ŵyl Serameg Ryngwladol 2019
English:Festival Assistant Application ICF 2019
1af Mawrth 2019: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
Ebrill 2019: Anfon llythyrau cadarnhau at ymgeiswyr llwyddiannus. Os nad ydych wedi clywed gennym erbyn 1 Mai, dylech dybio bod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus.
Mwy o wybodaeth ar gyfer Cynorthwywyr ICF 2019:
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2023 all rights reserved.