Mae Canolfan y Celfyddydau yng nghanol campws Penglais Prifysgol Aberystwyth. Pan ewch tuag at Aberystwyth ar y ffordd fe welwch arwyddion yn eich cyfeirio at Brifysgol Aberystwyth; bydd y rhain yn eich arwain at Gampws Penglais (oddi ar yr A487). Cadwch lygad am yr arwyddion sgwâr melyn llachar sy’n cynnwys llun o fwrdd morter (cap academaidd). Cyfeirnod y grid ar gyfer defnyddwyr sat nav yw: 52.417739, -4.065292.
Gellir cyrraedd safle’r Ŵyl yng Nghanolfan y Celfyddydau ar Fryn Penglais ar droed o’r orsaf rheilffordd neu fysiau. Mae’n daith gerdded 20 munud i fyny’r allt ond mae tacsis y tu allan i’r orsaf reilffordd a bysiau sy’n mynd heibio’r ganolfan; mae amserlenni yma: http://www.aber.ac.uk/cy/maps-travel/bus
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Os ydych chi’n teithio i Aberystwyth ar y trên, rydyn ni’n cynghori eich bod chi’n gwirio’r amserlen ymlaen llaw i sicrhau nad ydych chi’n colli unrhyw un o ddigwyddiadau’r ŵyl. Mae gwasanaeth Aberystwyth yn rhedeg tua bob dwy awr. Am fwy o fanylion ewch i http://www.nationalrail.co.uk
Mae yna hefyd wasanaethau coetsys rheolaidd. http://www.aberystwyth.org.uk/transport/coaches.shtml
Y meysydd awyr agosaf yw:
Caerdydd (2.5 awr)
Birmingham International (2.5 awr) gyda chysylltiad uniongyrchol o’r orsaf reilffordd ag Aberystwyth.
Manceinion (3 awr)
Meysydd Awyr Llundain (5 awr)
Os hoffech wirio unrhyw faterion mynediad cyn i chi ymweld â Chanolfan y Celfyddydau, ffoniwch 01970 622882. Mae parcio wedi’i gadw wrth ymyl y brif fynedfa ar gyfer gyrwyr sydd â symudiad cyfyngedig. Mae dau le hefyd ar gael yng nghefn y theatr, gyda mynediad gwastad i’r prif gyntedd.
Mae mynediad i gadeiriau olwyn ar gael i’r holl awditoria a lleoedd gweithdy yn y lleoliad. Mae mynediad ar lefel y ddaear i’r prif gyntedd a swyddfa docynnau, gyda lifft i gyntedd y theatr a thrwy lifft grisiau i lawr i’r lefel is. Croesewir cŵn tywys a chŵn cymorth. Mae cyfleusterau toiled yn hygyrch ar bob lefel ac eithrio’r cyntedd isaf.
Gweler mwy yn: www.aberystwythartscentre.co.uk/disabled-access
O 28ain Chwefror 2019 mae Llety Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth bellach wedi’i werthu i gyd.
Gweinyddir y llety hwn gan Swyddfa Gynhadledd Prifysgol Aberystwyth, os ydych wedi archebu llety ac angen cysylltu â nhw dyma eu manylion:
e-bostiwch conferences@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 621 960
Mae map a gwybodaeth am casglu a dychwelyd allweddi ar gael yma: AU accomodation ICF 2019
I gael gwybodaeth am westai lleol ac opsiynau Gwely a Brecwast, cysylltwch â Swyddfa Dwristiaeth Aberystwyth ar 01970 612125 neu ewch i wefan Gwestai a Llety Aberystwyth. Am westai dan sylw sy’n cynnig gostyngiadau i ymwelwyr ICF cliciwch yma.
Beth am estyn eich arhosiad a gweld beth arall sydd gan Aberystwyth a Chanolbarth Cymru i’w gynnig? http://www.visitwales.com
Rydym wedi llunio pecyn sy’n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am drafnidiaeth a thacsis, meddygon a fferyllfeydd, map o gampws Penglais a gwybodaeth arall y gallai fod ei hangen arnoch yn ystod eich arhosiad. Cliciwch ar y ddolen isod i lawrlwytho: ICF 2019 Festival Information Pack
Have a question, make a comment, or just say hello!