logo

Anabelí Díaz (MECSICO/SWEDEN)

International Ceramics Festival 2017 - Aberystwyth. Anabeli Diaz

International Ceramics Festival 2017 – Aberystwyth. Anabeli Diaz

Ganwyd Anabelí Díaz ym 1975 yn Ninas Mecsico; astudiodd serameg yn Sweden lle mae hi wedi byw ers yr 1990au. Mae serameg Mecsicanaidd bob amser wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth iddi. Cafodd ei magu yn clywed chwedlau am greaduriaid sy’n byw yn y coed, siamaniaeth, melltithion a’r llygad drwg. Mae hi’n ymdrechu i ddangos bod pob bod dynol yn fydysawd eu hunain trwy ei ffigurau ar raddfa fawr. Bydd hi’n adeiladu hefo coiliau i greu cerflun ffigurol ar raddfa fawr yn seiliedig ar y chwedlau a’r straeon a glywodd wrth dyfu i fyny yng nghefn gwlad Mecsico.

Date: October 16, 2020