logo

Beth Cavener Stichter (UDA)

Beth CS

Mae’r cerflunydd o fri rhyngwladol Beth Cavener Stichter yn creu ffigurau anifeiliaid mynegiadol mawr trwy dechneg hynod ddiddorol a thrylwyr. Mae ei ffurfiau anifeiliaid pwerus yn adlewyrchu seicoleg ddynol: ‘Mae greddfau anifeiliaid cyntefig yn llechu yn ein dyfnderoedd ein hunain’. Yn ystod ei harddangosiad bydd yn rhoi cipolwg ar sut y gall rhywun delio ag elfennau o ystum a mynegiant gyda shifftiau cynnil mewn llinell a ffurf. Mae ei dull anarferol o weithio yn hygyrch i unigolion sydd â diddordeb ar bob lefel: gweithio gyda màs solet o glai, yn aml dros 2,000 pwys, ac yna pantio pob rhan o’r cerflun i lawr at y croen.

Date: October 15, 2020