logo

Doug Fitch (UK)

Doug Fitch

Mae Doug Fitch yn un o brif grochenwyr llestri slip y DU ac mae ei wylio’n arddangos ei sgiliau traddodiadol medrus yn bleser pur. ‘Mae fy nghlai yn gyfuniad o glai coch o Ddyfnaint, wedi’i chloddio o wythiennau cyfoethog sydd wedi cael eu hecsbloetio gan grochenwyr ers canrifoedd. Mae fy mhotiau yn cael eu gwneud ar olwyn y crochenydd yn y dull traddodiadol. Rwy’n cael ysbrydoliaeth fawr gan grochenwaith y cyfnod canoloesol a thraddodiad crochenwaith gwledig Lloegr a ddarparodd nwyddau gwladaidd iwtilitaraidd sylfaenol i’r gymuned wledig leol hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif. Yn ystod yr ŵyl bydd Doug yn arddangos taflu a rhoi handlen ar jwg gynhaeaf mawr yn ogystal â nifer o wahanol ddulliau o addurno, gan gynnwys ‘sprigging’, llusgo slip a sgraffito.

Date: October 15, 2020