logo

Steve Dixon (DU)

Steve Dixon

Mae’r Athro Stephen Dixon yn cyfuno serameg stiwdio â phrosiectau cyhoeddus a chymunedol rheolaidd; yn 2000 derbyniodd wobr ‘Blwyddyn yr Artist’ Cyngor y Celfyddydau am brosiect cydweithredol gydag Amnest Rhyngwladol a ffoaduriaid Kosovan. Yn 2009 comisiynwyd i gynhyrchu’r cerflun serameg ‘Monopoly’ ar gyfer y British Ceramic Biennial yn Stoke-on-Trent. Ar hyn o bryd mae Dixon yn cymryd rhan fel Cymrawd Ymchwil yn y Celfyddydau Cyfoes ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion, gan ymchwilio i naratif gwleidyddol a’r ddelwedd argraffedig gyfoes. Yn ddiweddar, cafodd ei gyflogi fel yr artist preswyl cyntaf yn Orielau Serameg newydd y V&A.

Date: October 15, 2020