logo

Edith Garcia (MECSICO/UDA/UK)

Edith Garcia

Ganed Edith Garcia ym Mecsico, ac mae wedi byw yn yr UDA a’r DU. Mae llawer o’i cherfluniau a gosodiadau serameg yn dangos darniad o’r ffurf ddynol, gan gynhyrchu gweithiau sy’n allanoli seicoleg – sydd weithiau yn aflonyddu – gan droshaenu safbwynt emosiynol plentyn â phersbectif oedolyn. Yn artist sy’n defnyddio serameg yn bennaf, mae Garcia yn ymgorffori deunyddiau eraill lle bo angen. Ar hyn o bryd mae hi’n ymchwilydd yn y Coleg Celf Frenhinol yn Llundain. ‘Mae yna lawer o ffyrdd gwahanol i artist gweithio; i mi mae fy ngwaith yn ffordd i gofnodi fy mhrofiadau unigol unigryw trwy gydol fy oes, gan ddarlunio digwyddiadau bob dydd a phrofiadau yn y gorffennol, gan gyfeirio at faterion cyfoes sy’n benodol i’r cyflwr dynol. Wrth i fy mywyd barhau i newid felly hefyd bydd y cynnwys y tu ôl i’m gwaith celf.’

Date: October 18, 2020