logo

Arddangosfa: O Serameg i Sain

Delwedd: Copper Sounds

 

27 Mehefin – 15 Medi 2025

Mae agoriad swyddogol yr arddangosfa yn cael ei chynnal nos Sadwrn 28 Mehefin o 6yh – croeso cynnes i bawb

 

Tri ymarfer sy’n cyfuno serameg a sain: William Cobbing, Abi Haywood a Copper Sounds. Yn cyflwyno fideo a cherflun serameg mewn gosodiadau amlgyfrwng ymdrochol, mae pob artist yn archwilio sut y gellir actifadu y cyfrwng o glai trwy berfformiad a thechnoleg, wrth drin sain –  fel clai – fel deunydd hyblyg.

Bydd yr arddangosfa ym mhrif oriel Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ffocysu ar Serameg a Sain gyda gosodiad sain arbrofol anhygoel gan Copper Sounds (Lloegr), fideos syfrdanol William Cobbing (Lloegr) yn seiliedig ar serameg a pherfformiad, a gosodiad serameg a llais gan Abi Haywood (Cymru) ‘Y Môr y Merrier’ a ysbrydolwyd gan ddrama Dylan Thomas o 1954, ‘Undermilk Wood’, ond wedi’i diweddaru gydag ambell dro annisgwyl.

Mae’r arddangosfa hon sydd wedi’i churadu gan yr Athro Moira Vincentelli a Ffion Rhys yn cyd-fynd â’r Ŵyl Rhyngwladol Serameg a gynhelir bob dwy flynedd yng Nghanolfan y Celfyddydau, a gynhelir rhwng 27ain- 29ain Mehefin eleni, gan roi llwyfan i serameg trwy arddangosiadau, adeiladu odynau, darlithoedd, ffilmiau, arddangosfeydd a gweithgareddau ymarferol.


Abi Haywood abi 🤍 (@_abihaywood_)

William Cobbing @william.cobbing

Copper Sounds  COPPER SOUNDS (@coppersounds)


Date: November 29, 2024