logo

Jonathan Keep (DU)

Jonathan Keep

Mae Jonathan Keep yn defnyddio meddalwedd gyfrifiadurol i yrru Argraffydd 3-D D.I.Y. yn ei stiwdio y mae wedi’i addasu i argraffu mewn clai. Haen wrth haen mae’r potiau yn cael eu hargraffu mewn math o adeiladu coiliau crochenwaith mecanyddol. Ar ôl argraffu, mae’r serameg yn cael ei danio a’i wydro yn y ffordd arferol. Ei nod yw caniatáu i bethau fod mor syml ac mor uniongyrchol â phosibl. Mae hefyd yn taflu, adeiladu â llaw gan ddefnyddio coiliau a slabiau, ac yn defnyddio technegau mowldio mewn amrywiaeth o glai, yn dibynnu ar y raddfa ac ansawdd yr arwyneb a ddymunir. Bydd yn dangos yr argraffydd 3-D ar waith. www.keep-art.co.uk

Date: October 15, 2020