logo

Mark Hewitt (UDA)

Mark Hewitt

Mae Mark Hewitt yn adnabyddus am ei nwyddau swyddogaethol wedi tanio â phren, a gynhyrchwyd yn ei grochendy yn Pittsburgh USA. Yn ddinesydd Americanaidd, cafodd ei eni yn Stoke on Trent ac mae’n fab ac yn ŵyr i gyfarwyddwyr Spode; astudiodd ym Mhrifysgol Bryste cyn ymgymryd â phrentisiaeth gyda Michael Cardew ac yn ddiweddarach un arall gyda Todd Piker yn Connecticut. Mae’n defnyddio clai lleol yn ei waith ac mae wedi llwyddo i gyfuno ei gefndir serameg yn fedrus â thraddodiadau gwerin ei gartref mabwysiedig yng Ngogledd Carolina. Bydd ei arddangosiad bywiog yn canolbwyntio ar wneud ‘potiau mawr’ – hyd at 5 troedfedd o daldra – gan ddefnyddio dwy dechneg wahanol; a bydd hefyd yn arddangos amrywiaeth o’i dechnegau ar weithiau bach – jygiau, tebotau, platiau ac ati.

Date: October 18, 2020