logo

Jorgen Hansen (DENMARC)

Jorgen Hansen

Astudiodd Jorgen Hansen serameg yn Ewrop a Chanada, gan gynnwys cyfnod gyda Bernard Leach. Gan arbenigo mewn nwyddau domestig wedi’u taflu, roedd yn teimlo’r angen am fynegiant mwy dramatig ac ym 1994 gwnaeth ei gerflun tanio cyntaf ar gyfer amgueddfa gelf yn Nenmarc. Mae bellach wedi creu 19 o gerfluniau tanio unigol yn Nenmarc, Sweden, Iwerddon, yr Eidal, yr Almaen, Awstralia a Gwlad yr Iâ. Mae ei weithiau dramatig yn cael eu creu fel ymateb i’r ardal, ac yn cymryd hyd at dair wythnos i’w hadeiladu cyn mae’r cerflun yn newid i fod yn odyn ac yn cael ei danio hyd at 1200C.

Date: October 18, 2020