logo

Mateusz Grobelny (GWLAD PWYL)

Mateusz G

Graddiodd Mateusz Grobelny o Academi’r Celfyddydau Cain, Wroclaw, Gwlad Pwyl, lle bu’n astudio serameg a gwydr. Ar gyfer yr Ŵyl bydd yn cyflwyno ei brosiect diweddaraf – odyn tanio pren symudol ar drelar car! Wedi’i ysbrydoli gan y syniad o gyflymu a gwneud yn fwy effeithlon y broses o danio coed i dymheredd uchel mewn mannau cyhoeddus, mae’r odyn wedi’i hadeiladu o ddeunyddiau ysgafn sy’n gwrthsefyll gwres, a bydd Mateusz yn ei gyrru o Wlad Pwyl yn uniongyrchol i’r Ŵyl.

Date: October 18, 2020