logo

Mike Eden (DU)

Mike Eden

Gwnaeth Mike Eden ei enw gyda Chrochendy Eden a gyd-sefydlodd gyda’i wraig Vicky. Ychydig flynyddoedd yn ôl fe astudiodd yn y Coleg Celf Frenhinol ac esblygodd ei serameg i gyfeiriad newydd, gan ddilyn ei nod newydd o gyfuno sgiliau crefft llaw serameg traddodiadol â thechnoleg ddigidol. Mae ei waith cyfredol yn defnyddio codau QR (Ymateb Cyflym) i sbarduno profiad rhithwir o’r gwrthrych, ac mae ar fin cynhyrchu gwaith cydweithredol gyda cherddor. Disgwyliwch gyflwyniad cyfeillgar, ymarferol sy’n archwilio peth o botensial technoleg ddigidol ar gyfer serameg: “Mae thema fy ngwaith cyfredol yn ymwneud â ‘rhyddhad’ y gwrthrych trwy brofiadau gwirioneddol a rhithwir ar yr un pryd.”

Date: October 18, 2020
Tags: