logo

Pete Bodenham and Carmarthen College Students (CYMRU)

Pete Boenham

Mae’r Tiwtor Serameg Peter Bodenham a myfyrwyr o adran Serameg a Gemwaith Ysgol Celfyddydau Creadigol Caerfyrddin (Coleg Sir Gar) yn adeiladu odyn newydd yn y coleg i baratoi ar gyfer gŵyl ICF 2013. Mae’r odyn wedi’i hadeiladu’n rhannol o sment gwrthsafol, briciau gwrthsafol a ffibr serameg. Bydd yr odyn yn cael ei defnyddio fel odyn soda nwy gyda’r nod o archwilio effeithlonrwydd ansawdd adeiladu a thanio. Yn ystod yr ŵyl bydd yr odyn yn cael ei hailadeiladu i’r un dimensiynau a dyluniad tebyg ag odyn clai anhydrin papur newydd Joe Finch a fydd hefyd yn cael ei hadeiladu gan Joe yn yr ŵyl. Bydd yr odynau’n cael eu tanio ar yr un pryd ar gyfer ymchwilio a chymharu hawster adeiladu, costau deunyddiau ac effeithlonrwydd tanio. Dewch i weld canlyniadau’r gystadleuaeth!