logo

Terry Davies and Alberto Cavalini (YR EIDAL)

International Ceramics Festival 2019 - Aberystwyth. Terry Davies

ODYNAU AWYR AGORED ARBROFOL YN DEFNYDDIO DEUNYDDIAU AILGYLCHU

Mae odynau Terry Davies wedi’u hadeiladu o boteli gwydr, papur, tiwbiau cardbord a hen gynfasau cotwm. Dros y saith mlynedd diwethaf mae ef a’r crochenydd Eidalaidd Alberto Cavalini wedi bod yn goleuo piazzas ledled yr Eidal gyda’u hodynau gwallgof mawr. Bydd y ddarlith hon yn cynnig mewnwelediad i fyd adeiladu a thanio odynau arbrofol, gan ddangos cynlluniau a delweddau o sut i adeiladu a thanio sawl odyn arbrofol, gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu. I gyd-fynd â thaniad odyn potel wydr Karin Putsch-Grassi yn yr Ŵyl, bydd y sgwrs yn cynnwys mewnwelediad i’r datblygiad a’r ymchwil a wnaed gan Cavalini a Davies ar gyfer eu hodyn potel win Chianti, syniad sy’n ymddangos yn syml ac sydd bellach wedi’i atgynhyrchu mewn amrywiaeth o wledydd.

Date: October 18, 2020