logo

Tom Barnett (DU)

Tom Barnett

Bydd Tom Barnett yn cyflwyno ‘gwaith celf perfformiad odyn’ gwefreiddiol a grëwyd yn arbennig ar gyfer yr Ŵyl: ‘Mae [fire]Capsule yn waith celf a arweinir gan broses a genhedlwyd i orlwytho’r synhwyrau. Yn ganolog iddo mae golygfa ddwys y cerflun pensaernïol tebyg i gapsiwl yn cael ei danio fel odyn a’i ddadorchuddio ar dymheredd o 1200ºC. Mae hwn yn cael ei adeiladu, ei danio, a’i arddangos yn y pen draw ar y safle. Bydd y ffurf clai gwag, 7 troedfedd o uchder wedi ei thrywanu gan ddrws, yn cael ei lapio mewn ffabrig inswleiddio a’i thanio â phren fel digwyddiad 24 awr. Yn hanfodol, yn ystod y cyfnod hwn, bydd celf sain ynghyd â delweddaeth symbolaidd yn cyfuno ar gyfer adloniant y cyhoedd. Ar ddiwedd dramatig y digwyddiad hwn bydd y deunydd inswleiddio yn cael ei dynnu i ddatgelu golygfa anhygoel – y Capsiwl am ychydig eiliadau yn disgleirio mewn ysblander gwyn oren – i golli ei fywyd ac oeri wedyn.’

Date: October 18, 2020