logo

Theo Harper-Davis – DU/Sweden

 

Mae Theo Harper yn gerflunydd, addysgwr ac ymchwilydd sy’n byw rhwng Sweden a’r DU. Ar hyn o bryd mae’n Uwch Ddarlithydd mewn Celf Seramig ym Mhrifysgol Gothenburg. Wedi’i hyfforddi fel gwneuthurwr mewn ystod eang o ddefnyddiau—o glai a metel i brosesau digidol—mae ei ymarfer yn cwmpasu gosodiadau, cerflunio, fideo a ffotograffiaeth. Mae ei ymchwil a’i addysgu yn archwilio rôl symudiad o fewn y broses o wneud, gan bontio crefft draddodiadol â thechnolegau newydd i ddatgelu posibiliadau mynegiannol a materol newydd mewn cerflunio cyfoes.

 

Teitl ei ddarlith: Crefftio Symudiad ac Edau Amgylcheddol

‘A ellir darllen emosiwn mewn symudiad? Mae’r sgwrs hon yn archwilio rhan fach ym mhrosiect Hephaestus (a ariannwyd gan Horizon Europe), gan ganolbwyntio ar y llaw mewn cerflunio seramig. Wedi’i osod o fewn cyfarfyddiadau ehangach rhwng crefft a thechnoleg, mae’n cwestiynu sut mae ystumiau tawel, deunyddiau prin ac offer digidol yn croesdorri—gan ddatgelu edafedd amgylcheddol ac olion emosiynol o fewn gwneud cyfoes.’

 

Gwenfan: https://hephaestuscraft.eu/

Instagram: @theoharperd

Date: May 31, 2025