logo

Zhao Hua Yang, Zhao Hua Long, Ning Fa You (CHINA)

Zhao Hua Yang, Zhao Hua Long, Ning Fa You

Mae Zhao Hua Yang, perchennog Ffatri Serameg Hua Peng Jingdezhen, a leolir yn Jingdezhen, Tsieina, wedi bod yn gwneud potiau mawr ers dros ugain mlynedd. Fwy na deng mlynedd yn ôl, ymunodd ei frawd, Zhao Hua Long, a’i gynorthwyydd, Ning Fa You, â Zhao ar gyfer creu’r gwrthrychau mawr rhyfeddol hyn – gall rhan o un o’r potiau hyn fesur 2 fetr mewn diamedr a phwyso 800 kg ar ôl tanio! Yn ystod yr Ŵyl, bydd y tri chrefftwr Tsieineaidd hyn yn arddangos technegau a thraddodiadau crefftwyr yn Jingdezhen. Byddant yn defnyddio offer, technegau a deunyddiau a daethant gyda hwy o Tsieina, gan gynnwys olwyn hynafol, i ddangos sut y maent yn taflu, trimio a gwneud.

Date: October 18, 2020