logo

Masakazu Kusakabe (JAPAN)

Masakazu Kusakabe

Mae Masakazu Kusakabe yn grochenydd ac yn adeiladwr odynau enwog. Mae wedi bod yn ymchwilio i ddulliau tanio ers y 1970au ac yn yr Ŵyl bydd yn arddangos adeiladu a thanio ei ‘odyn ddi-fwg’. ‘Mae’r odyn ddi-fwg yn deillio o ymdrech i gyflawni taniadau cyflym, gydag effeithiau tân a lludw cryf ar botiau, wrth allyrru bron dim mwg ar dymereddau tanio uchel. I mi mae’r odyn yn rhan o’r bydysawd. Y tu mewn mae’r glec fawr le mae golau tân llachar, galaethau, a sêr (fy narnau) yn cael eu geni. Mae tanio fel ffrwydrad llosgfynydd, ac mae fy narnau fel ei graig lafa. Mae crochenwaith fel alcemi, gallwn greu llawer o emau gyda chlai, fflamau, a lludw. Rydw i’n was i’r duw tân.

Date: October 18, 2020