Mae’r Ŵyl Serameg Ryngwladol yn ddigwyddiad hynod o ddrud i’w gynnal. Rydym o hyd wedi ymdrechu’n galed iawn i gadw pris y tocyn i’r lleiafswm fel does neb yn cael ei adael allan. Yn anffodus rydym yn wynebu sefyllfa lle mae treuliau mor uchel fel bod angen i ni nawr ddechrau meddwl am ffyrdd i wrthbwyso costau heb godi prisiau tocynnau mwy nag sy’n hollol angenrheidiol. Felly, rydym yn chwilio am eich cefnogaeth fel crochenwyr a selogion i’n helpu i gyflawni’r nod yma.
Yn 2005 penderfynodd y pwyllgor i gyflwyno ychwanegiad newydd a chyffrous i raglen yr Ŵyl sef y ‘Sêl ac Arddangosfa Cwpanau’. Nid yw’r syniad yma yn un newydd. Yn yr NCECA, yr ŵyl sy’n cyfateb i’r ICF yn yr UDA, mae pobl wedi cynnig cwpanau, bowlenni te, Yunomi, Chawan, a biceri fel rhoddion ers blynyddoedd, lle defnyddiwyd yr arian a godwyd ar gyfer NCECA’s yn y dyfodol ac ar gyfer ysgoloriaethau i fyfyrwyr astudio.
Ers 2005 mae Sêl Cwpanau’r ICF wedi dod yn rhan boblogaidd iawn o’r Ŵyl. Rhoddir dros 200 o gwpanau a gwerthir bron pob un. Ers hynny rydym wedi gwahodd cyfranogwyr i help gefnogi’r ŵyl trwy ddod â chwpan (neu ddarn bach o waith serameg) i’w anrhegu a’i chynnwys mewn arddangosfa werthu gyda’r holl werthiannau yn mynd i gynnal Gwyliau’r dyfodol. Mae’r gwesteion sydd wedi cael eu gwahodd hefyd yn cyfrannu darn yr un at y Sêl Cwpanau. Bydd pob cwpan sy’n cael ei arddangos yn cael ei werthu am bris wedi ei ddewis gan y rhoddwr a bydd yr elw llawn yn cael ei ddefnyddio tuag at ddatblygu Gwyliau yn y dyfodol.
Mae’r syniad yn un syml. Pan gyrhaeddwch yr Ŵyl gadewch eich gwaith gydag un o’r myfyrwyr sy’n gynorthwywyr yn ardal y cyntedd (bydd cyfarwyddiadau ar arwyddion i chi weld). Gyda’ch gwaith, cyflwynwch y Ffurflen Gwerthu Cwpan (gallwch ei lawrlwytho isod) wedi’i llenwi â’ch enw, cyfeiriad a’r pris rydych chi’n teimlo y dylid gwerthu’r cwpan yn seiliedig ar y pris rydych chi’n ei chynnig fel arfer. Mae croeso i chi osod cerdyn neu daflen gwybodaeth amdanoch chi neu’ch crochenwaith gyda’ch gwaith fel y bydd ymwelwyr yr arddangosfa’n gwybod pwy wnaeth y gwaith a sut i gysylltu â chi. Os nad ydych chi’n wneuthurwr, mae croeso i chi ddod â “chwpan” gan rywun arall.
Arddangosfa’r Sêl Cwpanau
Bydd yr arddangosfa yn agor ar fore Dydd Sul. Yna, ar adeg i’w benderfynu, bydd y cwpanau yn cael eu gwerthu yn eu trefn o’r ciw gyda phob person yn cael prynu un yn gyntaf. Ymunwch a ni os gwelwch yn dda! Ein gwesteion ac ymwelwyr sydd i wneud i’r syniad yma weithio. Bydd eich
rhoddion yn cyflwyno arddangosfa ddiddorol ac amrywiol tra ar yr un pryd yn darparu cyllid angenrheidiol i ni gan sicrhau y bydd yr ŵyl hyd yn oed yn fwy ac yn well yn y dyfodol.
Lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a dewch â hi i’r Ŵyl.
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2023 all rights reserved.