Dechreuodd Gwobr Gwneuthurwyr Newydd Potclays yn 2011. Mae’n gyfle i grochenwyr ac artistiaid yn y DU sy’n gweithio gyda chlai ac sydd wedi graddio yn ystod y pum mlynedd diwethaf, arddangos eu gwaith yng Ngŵyl Serameg Ryngwladol 2023. Dewisir enillydd Gwbor Gwneuthurwyr Newydd Potclays a’r ICF yn seiliedig ar eu gwaith y maent yn ei arddangos yn ystod penwythnos yr ICF – bydd y cyhoedd hefyd yn cyfrannu tuag at y pleidleisio. Bydd yr enillydd yn derbyn taleb o £200 i’w wario gyda Potclays LTD.
Noddir gan Potclays
GWNEUTHURWYR NEWYDD 2023
Rhiannon Gwyn – Enillydd
‘Y Nefoedd yn toddi i’r tir’
Mae f’ymarfer yn archwilio’r cysylltiadau dwfn sydd gan fodau dynol â lle a thirwedd. Mae gennyf ddiddordeb mewn sut y gall deunyddiau weithredu fel dynodwyr hunaniaeth; yn dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn gweld ein hunain a’r byd o’n cwmpas trwy argraffu emosiwn a chof ar ein hamgylchoedd. Mae fy ngwaith yn crynhoi harddwch garw tirwedd fy nghartref – pentref chwarel yng Ngogledd Cymru – trwy ddefnyddio nodweddion corfforol llechi Cymreig a deunyddiau eraill a geir yn lleol. Llechi Cymreig pur wedi eu toddi a’u siapio a phowlenni porslen wedi’u gwydro â darnau o lechen a gwydredd a wnaethwpyd o eithin a gasglwyd ac a losgwyd ar fynyddoedd y Carneddau.
https://www.rhiannongwyn.com Instagram: @rhiannongwyn.maker
Stefanie Smith
‘Rwy’n artist a anwyd yng Nghanada sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Cwblheais yn ddiweddar fy ngradd Meistr mewn Serameg a Chreu gyda rhagoriaeth o Brifysgol Metropolitan Caerdydd (2022) ac ‘rwy’n Artist Preswyl yn Stiwdios Fireworks Clay. ‘Rwy’n defnyddio cerflunwaith ffigurol ynghyd ag offer a dulliau adrodd mythau fel ffordd o ledaenu’r straeon hyn a chodi ymwybyddiaeth o sut mae’r straeon yn effeithio ar fy hunaniaeth a’m cysylltiad ag eraill. Yn gynyddol, ‘rwyf hefyd yn archwilio’r mythau penodol sydd wedi eu gwreiddio o fewn ein diwylliant.
http://www.stefaniesmithceramics.com Instagram: @smithceramics
Jean White
Cwblhaodd Jean White MA Dylunio: Crefft ym MMU yn 2021 ar ôl gyrfa fel darlunydd llawrydd. Yn sgil ei diddordeb mewn gwylio adar dechreuodd arlunio adar ar glai. Mae’n defnyddio mowldiau plastr a slipcast naill ai mewn porslen neu glai pariaidd. Mae ei gwaith cyfredol yn amlygu’r bygythiadau dirfodol i adar Prydain gan gyfeirio at brosesau traddodiadaol llestri Jasper Wedgwood, yn cyfuno gwaith sbrig gyda siapiau cyfoes glân. Enillodd ei chasgliad yn dwyn y teitl ‘Ffosilau’r Dyfodol’ Wobr Uchaf y Franz Rising Star 2020/21, y wobr borslen ryngwladol ar gyfer seramegyddion ar ddechrau eu gyrfa sy’n gweithio ym maes porslen.
https://www.jeanwhiteceramics.co.uk/ Instagram: @jeanwhiteceramics
Anastassia Zamaraeva
Mae Anastassia Zamaraeva yn artist serameg gerfluniol wedi’i lleoli ym Manceinion, y DU. Yn hanu o Rwsia yn wreiddiol, symudodd ei theulu i Ganada pan ‘roedd yn 6 oed. Dyma le cafodd ei chyflwyno i glai. Fel oedolyn, symudodd Anastassia i ffwrdd oddi wrth serameg. Cwblhaodd BA mewn Pensaernïaeth a gweithiodd yn y proffesiwn hwnnw am nifer o flynyddoedd. Yn 2018, symudodd yn ôl i glai a dechreuodd weithio yn y maes gofal cymdeithasol. Bu’r ymdrech ddeuol hon i fynegi ei hun trwy greu celf a chynorthwyo eraill yn ei harwain at ymgymryd ag MA mewn Seicotherapi Celf, y gobeithir ei chwblhau ym mis Gorffennaf 2023. Dros y tair blynedd diwethaf, mae Anastassia wedi datblygu ei hymarfer yn ei stiwdio gartref. Yn gweithio ar ei phen ei hun yn gwneud archwiliadau hynod bersonol, mae Anastassia wedi darganfod bod gan glai ryw allu cynhenid i’n cysylltu ni â’n profiadau anymwybodol o’r gorffennol.
http://www.azamaceramics.co.uk Instagram: @a_zama_ceramics
*****
Y Broses ymgeisio [caewyd 30 Ebrill 2023]
Dechreuodd Gwobr Gwneuthurwyr Newydd Potclays yn 2011. Mae’n gyfle i grochenwyr ac artistiaid yn y DU sy’n gweithio gyda chlai ac sydd wedi graddio yn ystod y pum mlynedd diwethaf, arddangos eu gwaith yng Ngŵyl Serameg Ryngwladol 2023.
Gofynnir i’r pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ddod â detholiad o’u gwaith i gymryd rhan yn arddangosfa’r Gwneuthurwyr Newydd yn ystod y penwythnos. Bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael tocyn penwythnos a lle i aros ar gyfer yr Ŵyl Serameg Ryngwladol 2023. Bydd gan yr holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol broffil ar wefan ICF ac rydym yn argymell bod ganddyn nhw wefan neu flog i gysylltu hefyd. Bydd y pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan yr ICF o ran rhoi cyhoeddusrwydd ar draws cyfryngau cymdeithasol ICF yn yr amser tan yr Ŵyl nesaf o leiaf.
Dewisir enillydd Gwbor Gwneuthurwyr Newydd Potclays a’r ICF yn seiliedig ar eu gwaith y maent yn ei arddangos yn ystod penwythnos yr ICF – bydd y cyhoedd hefyd yn cyfrannu tuag at y pleidleisio.
Bydd yr enillydd yn derbyn taleb o £200 i’w wario gyda Potclays LTD, cyhoeddir cyfweliad ar wefan Potclays, rhoddir tystysgrif wedi’i fframio, ynghyd â chefnogaeth barhaus ar gyfryngau cymdeithasol a digidol e.e. datganiadau i’r wasg ar gyfer eu newyddion a’u digwyddiadau yn cael eu cyhoeddi yn eu cylchlythyrau e-bost misol. Yn ogystal, bydd yr ICF yn darparu llety a thocyn i Ŵyl 2025.
Ymgeiswyr:
Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed ac wedi’u lleoli yn y DU. Rhaid eu bod wedi graddio o brifysgol yn y DU neu sefydliad Addysg Uwch yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, mae hyn yn cynnwys myfyrwyr a fydd yn graddio erbyn mis Gorffennaf 2023.
Mae’r dewis yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:
Y Broses Ceisiadau:
Darparwch y canlynol os gwelwch yn dda:
Dyddiad cau y ceisiadau yw 30 Ebrill 2023.
Danfonwch eich cais drwy ebost gyda’r teitl Gwbor Gwneuthurwyr Newydd Potclays i
Cat Gardiner
Ebost: administrator@icfwales.co.uk
Y Broses Ddethol:
Ar ôl derbyn pob cais am y gystadleuaeth, bydd panel dewis yr ICF yn dewis y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol. Bydd y panel dethol yn cynnwys Cynrychiolwyr Potclays a Cyfarwyddwyr yr ICF.
Llinnell Amser:
Mawrth 2023: Ceisiadau Gwbor Gwneuthurwyr Newydd Potclays ar agor
30 Ebrill 2023: Dyddiad cau ceisiadau
13 Mai 2023: Dewiswyd pedwar Gwneuthurwr i roi cyflwyniadau ac arddangos yn yr Ŵyl
2 Gorffennaf 2023: Enillydd y wobr wedi’i dewis yn ystod yr Ŵyl (30 Mehefin – 2 Gorffennaf 2023)
Cefnogir y wobr hon gan Potclays LTD a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2023 all rights reserved.