Llongyfarchiadau i Dr Natasha Mayo ar ennill y cyfle yma i fod yn artist preswyl yn ICS
____________
*** Ceisiadau nawr ar gau – diolch i bawb a ddanfonodd gais***
GWOBR PRESWYLFA RYNGWLADOL STIWDIO SERAMEG KECSKEMÉT 2023
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y Stiwdio Serameg Ryngwladol (ICS) unwaith eto yn cynnig cyfle preswylio yn Kecskemét, Hwngari. Mae ceisiadau yn agored i BOB ymarferydd serameg yn y DU gan gynnwys rhai sydd wedi dod at serameg canol gyrfa neu’n hwyrach sy’n dymuno gweithio mewn amgylchedd cyfoethog a diwylliannol. Mae rhaglen Artist Preswyl ICS yn caniatáu i artistiaid weithio yng nghyd-destun gwlad a diwylliant gwahanol. Mae’r ICS yn ganolfan cyfnewid diwylliannol rhyngwladol, sy’n caniatáu i artistiaid weithio ochr yn ochr ag eraill o amrywiaeth o gefndiroedd cyfoethog ac amrywiol yn ddiwylliannol yn ogystal â gweithwyr proffesiynol a myfyrwyr celfyddydau lleol.
Mae’r rhaglenni’n rhoi lle i artistiaid greu gweithiau newydd, arbrofi gyda syniadau arloesol, archwilio cyfeiriadau newydd yn eu gwaith ac ymchwilio i ffyrdd newydd a gwahanol o wneud. Anogir artistiaid i archwilio ein holl gyfleusterau i agor posibiliadau a chyfarwyddiadau newydd i’r seramegydd cyfoes. Gall artistiaid preswyl gyfnewid syniadau a phrofiadau trwy gyflwyniadau a thrafodaeth anffurfiol.
Enillwyd gwobr 2017 gan Rob Parr. Gallwch ddarllen am ei brofiad preswyl ar ei wefan yma: Rob Parr Ceramics
Dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau: 30ain Ebrill 2023. Lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais yma
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2023 all rights reserved.