logo

Angela Tait – ‘Smalls’

Artist serameg gyfrwng cymysg yw Angela Tait sydd ar hyn o bryd yn ymgymryd â gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Sunderland a’r Ganolfan Wydr Genedlaethol. Mae ymarfer Angela yn ystyried y berthynas rhwng ymarfer creadigol a rhwymedigaethau’r cartref.  

Ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 3ydd 2021, creodd Angela ei darn perfformiad ‘Smalls‘ yng Nghanolfan y Celfyddydau, darn o waith sy’n chwarae ar y syniad o amser cylchol trwy ddefnyddio effeithiau gweledol olwyn y crochenydd a’r peiriant golchi.  Yn ystod y dydd cafodd cyfres o bowlenni clai caled a daflwyd gan Angela a nifer o wirfoddolwyr ymweliadol eu hongian i fyny y tu allan i stiwdio serameg y Ganolfan er mwyn creu gosodwaith sy’n cyfeirio at y syniad o ddillad yn cael eu gosod allan ar y lein i sychu.    

‘Mae teitl y darn yn cyfeirio at faint y powlenni ac hefyd at y dywediad Saesneg ‘washing your smalls’…mae’r gwyliwr yn gweld y proses yn datblygu mewn amser real, gyda’i holl rythmau ac ymyriadau. Mae’r lein ddillad yn llenwi’n raddol gyda darnau clai a gymerir yn syth o olwyn y crochenydd. Wrth iddynt ddechrau sychu, rhoddir tyllau bach ynddynt er mwyn i rubanau lliwgar, ffabrig ac edau brodwaith gael eu hychwanegu. Gwneir hyn yn ystod yr amser rhwng y taflu a’r proses o orffen. Mae rhythm yn dechrau datblygu rhwng yr artist a’r gwaith, yn ôl ac ymlaen, rhwng rhannau’r proses creu.’

Date: February 18, 2022