logo

Murlun Wendy Lawrence yn Yr Hwb Penparcau

Bu Wendy Lawrence, Cyfarwyddwraig yr Ŵyl Serameg Ryngwladol ac un o’r arddangoswyr yn 2019, yn cynnal gweithdy addurno murlun llwyddiannus gydol y dydd ar Orffennaf 3ydd 2021 ar safle Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Crewyd y murlun serameg, sy’n 2m o hyd, mewn gweithdy blaenorol yn yr Hwb Penparcau (Canolfan Gymuned Penparcau) ym mis Mai 2021 gydag aelodau o’r gymuned leol yn Aberystwyth a phentref Penparcau. Ar ôl cael ei danio, bydd y murlun, a wnaethpowyd o gasgliad o deils haniaethol, gweadog, yn cael ei osod yn barhaol yn Yr Hwb.

Ar yr un pryd â rhoi gwydredd ar y murlun, trefnwyd gweithgareddau i oedolion a phlant i greu ac addurno teils mewn cydweithrediad â thîm addysg Canolfan y Celfyddydau. Hefyd, gwahoddwyd oedolion lleol nad oeddent wedi medru mynychu unrhyw sesiynau crochenwaith yn ystod y flwyddyn i ddod i mewn a manteisio ar y cyfle i daflu ar yr olwynion yn y stiwdio crochenwaith. 

Derbyniodd Wendy Lawrence radd BA mewn dylunio 3D (Serameg) o Brifysgol Sir Gaerhirfryn Ganolog ym 1998, ac ers hynny mae wedi dysgu serameg a rhedeg gweithdai ar gyfer ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol. Mae hi wedi cymryd rhan mewn symposia a gweithdai ym Mhrydain, Ewrop ac America ac ‘roedd yn artist wadd yng Ngŵyl Serameg Ryngwladol Aberystwyth yn 2003. Mae hi’n ymddiddori mewn gweadeddau ffurfiau daearegol naturiol y daw ar eu traws tra’n cerdded yng Ngogledd Cymru lle mae hi’n byw (Sir Ddinbych). Mae hi’n arbrofi gyda gwydredd gan ddefnyddio sylweddau hynod adweitheddol er mwyn creu arwynebau gweadog cyfoethog sy’n debyg i ffurf naturiol strata creigiau. Mae hi’n tanio’r gwaith hyd at 1260 gradd C mewn odyn drydan, gan amrywio’r atmosffer o ocsideiddiad i rydwythiad trwm. 

“Mae fy serameg yn elfennol ac yn folcanig, yn ceisio gorddweud y ffurf a’r gweadedd sy’n amlwg yn y proses daearegol. Mae’r gweadedd a’r lliwiau’n dwysáu; yn fframio nodweddion natur o fewn pob darn. 

‘Rwy’n byw ger arfordir a mynyddoedd Gogledd Cymru – wedi f’ymgolli mewn daeareg sy’n parhau i fod fy mhrif ffocws. Mae’r diddordeb hwn wedi datblygu yn sgil gwerthfawrogi ffurfiau a gweadedd naturiol yn eu cyfanrwydd. ‘Rwyf wedi bod yn dogfennu daeareg, ffurf, arwyneb a gweadedd trwy arlunio, ffotograffiaeth a chasglu eitemau ar hap ers blynyddoedd. Ysbrydolir fy ngwaith hefyd gan fonolithau, cylchoedd cerrig, cafnau ac olwynion: ffurfiau sy’n cyfleu urddas y garreg.”

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwneud teils yn Hwb Cymunedol Penparcau Mai 2021

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwydro teils ar ddiwrnod Gŵyl yr ICF, Gorffennaf 3ydd 2021

Date: February 18, 2022