logo

Antonella Cimatti (YR EIDAL)

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Ganwyd Antonella Cimatti yn Faenza, ac astudiodd serameg o dan Carlo Zauli yn yr Istituto d’Arte (Ysgol Serameg y Wladwriaeth) lle mae hi wedi bod yn dysgu Dylunio ers 1979. Mae hi wedi ennill llawer o wobrau rhyngwladol gan gynnwys y Wobr Arian yn Biennale Rhyngwladol Korea 2007, ac mae’n aelod o Gyngor Crefftau’r Byd Ewrop. Mae hi’n gwneud ffurfiau les cain gyda chlai papur porslen. Bydd hi yn arddangos y gwaith o baratoi ei chlai papur a chreu siapiau, trwy gastio slip a llusgo’r clai papur porslen dros ddarnau sydd yn cefnogi’r clai a gellir eu tanio i dymheredd uchel. 

Date: October 15, 2020