logo

Don Reitz (UDA)

Don Reitz

Ganed Don Reitz ym 1929 yn Pennsylvania ac mae’n cael ei gydnabod fel un o’r seramegwyr pwysicaf a mwyaf dylanwadol sy’n gweithio heddiw. Mae wedi cynnal ymchwiliad trwy gydol ei oes i mewn i danio gyda halen a phren, a thrwy arbrofi hir datblygodd ystod o liwiau ac effeithiau arwyneb nad oedd yn hysbys o’r blaen wrth danio hefo halen. Ymhlith nifer o wobrau, yn 2002 derbyniodd un o’r anrhydeddau uchaf yn ei faes pan ddyfarnodd Cyngor Crefft America eu Medal Aur iddo. ‘Dros y blynyddoedd, mae amser wedi caniatáu imi drin fy ffurfiau ac arwynebau gyda rhywfaint o ddeallusrwydd cynhenid ​​a boddhad personol. Mae amser, sy’n gynhwysyn hanfodol wrth danio, yn caledu a lliwio’r clai, ond mae hefyd yn rhoi amser i mi feddwl ac edrych tu fewn. Mae amser wedi galluogi i mi ddod ag unigrywiaeth bersonol i’m gwaith, ac eglurhad o bwrpas. Mae’r gweithiau yma yn bontydd sy’n caniatáu imi symud yn rhydd o un realiti i’r llall. Yn y rhyngwyneb rwy’n rhydd o gonfensiwn, barn, a hanes beichus. Mae fy ngwaith yn dod yn eiconograffeg bersonol sy’n fy ngalluogi i ddelweddu a threfnu fy ngwybodaeth. Mae fy marciau yno yn y clai. Fy llofnod.’ Bydd Don Reitz hefyd yn rhoi Darlith Goffa Michael Casson yr Ŵyl – gwelwch dudalennau’r rhaglen am yr amseriad.

Date: October 18, 2020
Tags: