logo

Shozo Michikawa (JAPAN)

Shozo Michikawa

Mae gweithiau Shozo Michikawa wedi cael eu galw’n haikus mewn clai: ‘… y byd natur yw fy mhartner ac mae angen i ni gyd-dynnu’n dda hefo’n gilydd neu fel arall bydd y canlyniad yn anfoddhaol. Y cyfan rydw i’n ei wneud yn y broses yw rhoi ychydig o help llaw i’r clai sy’n trawsnewid yn barhaus, er mwyn cynorthwyo’r ffordd y mae am fynd.’ Wedi’i eni yn Hokkaido, gogledd Japan, ym 1953, mae Shozo Michikawa yn un o brif seramegwyr Japan ac mae wedi arddangos ledled y byd. Astudiodd ym Mhrifysgol Aoyama Gakuin lle graddiodd ym 1975, ac mae bellach yn byw ac yn gweithio yn Seto, Aichi. Bydd yn arddangos ei dechnegau taflu, yn enwedig wrth wneud ffurfiau trionglog a sgwâr.

Date: October 18, 2020