logo

Higashida Shigemasa (JAPAN)

HIGASHIDA+Shigemasa

Mae Higashida Shigemasa wedi cael ei ddisgrifio fel ‘arlunydd tirlun digymar’ sy’n gweithio ym maes serameg; ‘Bryniau gwyrddlas, dyfroedd glas dwfn yn llifo mewn patrymau chwyldroadol dramatig – mae pob un ohonynt yn nodweddion o’i waith gorau.’ Trodd at serameg ar ôl gyrfa fer ond llwyddiannus fel masnachwr stoc mewn cwmni broceriaeth fawr. Dilynodd ei amser yn yr ysgol serameg gyda phrentisiaeth hefo meistr crochenwaith yn yr 1980au. Ar y llwyfan, bydd yn arddangos mowldio’r gwaith gan ddefnyddio ‘Kurinuki’ (yn llythrennol ‘cloddio allan’) techneg na welir yn aml ac sy’n cynnig ffurfiau cryf na ellir eu cyflawni trwy daflu (himozukuri) neu adeiladu â slabiau (tatarazukuri). Ar y llwyfan bydd yn arddangos ei dechnegau o wneud fasys blodau a phlatiau, a hefyd bowlenni te.

Date: October 18, 2020