logo

John Bennett (Symposiwm PhD)

‘Rwy’n Seramegydd yn cyrraedd diwedd fy Ngradd Meistr mewn Serameg ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, CSAD. Yn gymharol newydd i’r cyfrwng, rwyf wedi datblygu angerdd dwfn am glai. Mae’r angerdd hwn wedi arwain at arfer newydd, cyfuniad o serameg a barddoniaeth: Poamics. Mae fy ymarfer yn ymchwilio i’r eirfa a’r naratifau sydd wedi’u cynnwys mewn teilchion a phenillion, ei nod: cyfoethogi y sgwrs bresennol mewn materoldeb serameg.’’

Crynodeb:
Rwy’n gweithio ar olwyn y crochenydd, gan ei weld fel trosiad ar gyfer bywyd a chylchdroadau solar. Mae’r rhyngwyneb rhwng y weithred o daflu a chyflwr llif ystyriol yn profi’r cyfnewid creadigol rhwng deunydd a gwneuthurwr, uniad o ffurf haptig, synau, y corff a symudiad. Gyda’r sillafau sain, rwy’n siapio, rhwygo, troi a chymhathu teilchion i mewn i lestri mwy, crefftio strwythurau a rhythmau sy’n dod yn frawddeg ac yn bennill. Trwy ddefnyddio’r olwyn, rydw i’n mynd i osgiliad rhwng trosiad a haptig, gan gymryd iaith gorfforol clai ac archwilio ei rethreg ginetig. Nod fy ymchwil yw archwilio gwerth deallusol serameg, i ddod o hyd i ffordd i ddehongli rhinweddau synhwyraidd gwrthrychau.

John Bennett 2

Date: June 17, 2019