logo

AILDDIRWYN – Dros 30 Mlynedd o’r Ŵyl Serameg Ryngwladol yn Aberystwyth

 

Er gwaethaf gohiriad yr ŵyl eilflwydd draddodiadol, aeth yr Ŵyl Serameg Ryngwladol ar-lein am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2021 gan ddathlu clai gydag ‘AILDDIRWYN – Dros 30 Mlynedd o’r Ŵyl Serameg Ryngwladol yn Aberystwyth’. Buom yn cydweithio gyda Culture Colony, cwmni cynhyrchu ffilmiau ym Machynlleth, i gynhyrchu rhaglen chwech awr a gafodd ei ffrydio’n fyw ar Vimeo gydol Dydd Sadwrn Gorffennaf 3ydd.

Bu’r sioe ar-lein hon yn nodweddu detholiad o uchafbwyntiau archifol yn ffocysu ar berfformiadau cofiadwy a thaniadau byw ysblennydd, ynghyd â digwyddiadau yn cael eu ffrydio’n fyw o Ganolfan y Celfyddydau. Ar y safle roedd yr artist gyfrwng cymysg Angela Tait yn creu ‘Smalls‘, darn gosodwaith a gyflwynwyd y tu allan i Stiwdio Serameg y Ganolfan. Yn y cyfamser bu Wendy Lawrence, a arddangosodd ei gwaith yn 2019 ac sy’n Gyfarwyddwraig yr Ŵyl, yn cynnal gweithdy creu ac addurno teils ar gyfer ymwelwyr, yn dilyn gweithdy cyffelyb a gynhaliwyd yn yr Hwb, sef Canolfan Gymuned Penparcau.

Bu’r rhaglen hefyd yn nodweddu’r gwesteion arbennig Ingrid Murphy a Jim Robison a drafododd flynyddoedd cynnar yr ŵyl, a’r crochenydd Steve Mattison a siaradodd am ei gysylltiad gyda’r Stiwdio Serameg Ryngwladol yn Kecskemet, Hwngari. Cafodd y digwyddiad, a gynhaliwyd rhwng 11am a 5pm, ei ffrydio’n fyw hefyd ar sgrîn yng nghyntedd y Ganolfan fel y gallai ymwelwyr fwynhau’r deunydd archifol yn ogystal.   

Date: February 18, 2022