logo

Regina Heinz (DU)

Regina Heinz

Mae Regina Heinz yn fwyaf adnabyddus am y ffurfiau ‘gobennydd’ y mae hi’n eu creu fel cerfluniau haniaethol unigol neu fel rhan o gyfres panel wal. Wedi’u hysbrydoli gan dirwedd fynyddig ei mamwlad, Awstria, a’u hadeiladu o slabiau meddal o glai, mae darnau Regina Heinz yn arddangos ansawdd organig a synhwyraidd. Yn atgoffa rhywun o agosatrwydd at y corff a llinellau yn llifo yn y tirwedd, gellir gweld ei gwaith, yn yr un modd, yn haniaethol yn unig – yn delio â ffurf, cyfaint, llinell a lliw. Mae ffurfiau sydd wedi’u hadeiladu’n fanwl yn adleisio dyluniadau geometrig, sydd wedi’u paentio mewn lliwiau bywiog ac yn cyferbynnu â’r arwynebau clai meddal. “Y tensiwn hwn rhwng caled a meddal, y pensaernïol a’r organig, y haniaethol a’r naturiol, sy’n animeiddio fy ngwaith.” Bydd arddangosiad Regina yn datgelu ei thechneg arbennig o adeiladu gyda slabiau, sy’n pwysleisio meddalwch a rhinweddau cyffyrddol clai.

Date: October 18, 2020