logo

Nina Hole (DENMARC)

Nina Hole

Mae Hole yn un o artistiaid serameg mwyaf blaenllaw Denmarc sy’n adeiladu cerfluniau clai ar raddfa fawr sy’n gweithredu fel eu hodyn eu hunain. Yn Aberystwyth, bydd Nina Hole yn adeiladu cerflun 2 fetr o uchder, yn barod i’w danio yn ystod penwythnos yr Ŵyl. “Rwyf wedi datblygu’r cysyniad o adeiladu cerflun awyr agored mawr sy’n cynnwys holl elfennau odyn, strwythur, ffurf, tanio a pherfformiad, wedi’u hadeiladu a’u tanio yn y fan a’r lle. Mae’r cerflun wedi’i adeiladu ar sylfaen o friciau tân sy’n cael eu gosod fel eu bod hefyd yn gweithredu fel sianeli tanio; daw’r odyn ei hun i fodolaeth pan fydd y cerflun gorffenedig wedi’i lapio mewn blanced ffibr serameg yna’n cael ei thanio. Mae pob cerflun wedi’i danio yn wahanol oherwydd y ffactorau anhysbys, fel yr elfennau, y deunyddiau a’r sefydliadau dan sylw. I mi, y foment fwyaf cyffroes yw pan rydyn ni’n gadael i’r llen o ffibr serameg disgyn ac mae’r cerflun yn cael ei ddatgelu yn ei gyflwr disglair … “

Date: October 18, 2020
Tags: