logo

Serameg a’r Cyfnod Clo – Perfformiad

Cynhaliwyd y gyfres ar-lein hon o anerchiadau Serameg a’r Cyfnod Clo – Perfformiad ar Nos Wener Gorffennaf 2il 2021 gan ystyried sut y bu perfformiad serameg yn addasu yn ystod cyfnodau clo COVID 19 yn 2020 a 2021. Wedi’i datblygu gan Rwydwaith Pynciau Arbenigol y Ganolfan Gelf Serameg (CoCA) yn Oriel Gelf Caerefrog mewn partneriaeth gyda’r Ŵyl Serameg Ryngwladol a gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr, ‘roedd yn rhan o gyfres o symposia a ddechreuodd yn 2019 i ystyried a thrafod materion allweddol sy’n wynebu’r gymuned serameg.  

Gyda’r Ddr Helen Walsh yn arwain, bu’r rhaglen yn cynnwys cyflwyniadau gan Andrew Livingstone, Claire McLaughlin, Angela Tait a Moira Vincentelli. Bu’r noson, a noddwyd gan Eventbrite, yn croesawu 255 o wahanol wylwyr o gymuned ryngwladol selogion serameg o mor  bell i ffwrdd â’r India, UDA, Twrci a Denmarc. Recordiwyd y noson ac mi fydd ar gael yn fuan ar-lein trwy wefan y Ganolfan Gelf Serameg.  

Gallwch ddod o hyd i raglen y noson isod:

Perfformio Jeju Scoria: Realiti a ddychmygwyd ac ymestyn geirfaoedd – Andrew Livingstone

Mewn canlyniad i’r pandemig Covid19, mae datrysiadau amgen ar gyfer ymchwil ac ymarfer yn cael eu hystyried a’u gweithredu. ‘Roedd hyn yn wir yn achos y prosiect ymchwil rhyngwladol hwn oedd i fod i gael ei gynnal yng Ngweriniaeth Corea ar Ynys Jeju ym mis Awst 2020. Oherwydd y cyfyngiadau ar deithio, gwireddwyd y prosiect o fewn y DU ym mis Tachwedd 2020. 

Bydd y cyflwyniad hwn yn dangos yr ymchwil, a seilir ar ymarfer, a wnaethpwyd fel rhan o’r prosiect The Clay Reader: Scoria, Scoria Jeju Scoria. Mae’n ystyried y syniad a’r realiti o astudiaeth rithiol trwy ddehongliad a ddychmygir ac ymatebion i ddeunydd a’i darddiad gwreiddiol. 

Mae Andrew Livingstone yn Athro Serameg ym Mhrifysgol Sunderland lle mae’n bennaeth ar Ganolfan Ymchwil y Celfyddydau Serameg. Mae Andrew wedi ysgrifennu a chyfrannu at nifer o lyfrau yn cynnwys The Ceramics Reader, a gyhoeddwyd gan Wasg Academaidd Bloomsbury. Arddangoswyd ei waith yn y Sefydliad Smithsonian ac Oriel Garth Clark, Efrog Newydd. 

Cân mewn Cwpan de – Claire McLauglin

Yn ystod y cyfnodau clo buom yn ffeindio’n hunain yn ôl yn ein cartrefi. ‘Roedd sesiynau canu yn gorfod symud yn ôl o gyfarfodydd rheolaidd yn y dafarn i’r gegin, lle cawsant eu cynnal yn draddodiadol. Wrth gymryd rhan mewn sesiynau fy nghylch canu ar y sgrîn Zoom, ‘rwyf wedi bod yn gwylio gyda diddordeb y cantorion yn eu cartrefi, yn aml gyda’u tsieni o’u cwmpas, yn sipian yn rheolaidd o’u hoff gwpan. Mae hyn wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth gyfoethog. 

Astudiodd Claire McLaughlin ym Mhrifysgol Wlster yn Belfast ac yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain lle derbyniodd ei MA mewn Serameg a Gwydr ym 1997. Rhwng 2000-2019, darlithiodd mewn Serameg, Celf a Dylunio yn Sefydliad Technoleg Galway-Mayo. Yn ddiweddar, mae hi wedi bod yn ymchwilio Cân a Serameg fel rhan o’i hastudiaethau PhD ym Mhrifysgol Sunderland.

Dyddiadur Clai COVID – Angela Tait

Dechreuwyd gwaith ar y dyddiadur clai ym mis Mawrth 2020 jyst cyn y cyfnod clo cyntaf yn y DU. Bob dydd am 90 dydd bu Angela yn creu cwpan oedd yn ymateb i’w phrofiad personol hi ac i rai o’r digwyddiadau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol ehangach wrth iddynt ddatblygu. Yr hyn a gyflawnwyd oedd dogfen yn cofnodi amser eithriadol trwy gyfrwng serameg. 

Tra bod hwn yn gofnod hunangofiannol, mae llawer o’r themâu yn brofiadau cyffredinol neu’n ennyn ymateb cyfarwydd yn y gwyliwr; newid yn y patrwm dyddiol, cyfathrebu mewn ffyrdd gwahanol a ffordd newydd o brofi amser.  

Mae Angela Tait yn gerflunydd sy’n gweithio’n bennaf trwy gyfrwng clai. Mae ei hymchwil yn ymwneud â rhythm, amser a phrofiad teuluol dyddiol. Ystyrir y pethau hyn trwy ffurf y gwpan, eitem sy’n ddealladwy i bawb. Mae hi’n gweithio ym Mhrifysgol Salford fel Cymrawd Academaidd ar y cwrs BA (Anrhydedd) Celf Gain.

Perfformio Serameg yng Ngŵyl Serameg Ryngwladol Aberystwyth – Moira Vincentelli

Mae arddangos technegau serameg, yn arbennig taflu ar yr olwyn, wedi bod yn rhan o hanes ers o leiaf canrif. Maent bob amser, neu agweddau ohonynt – yn berfformiad. Bydd y cyflwyniad yn ystyried rhai o’r perfformiadau a’r arddangosiadau cofiadwy sydd wedi digwydd yn ystod yr ŵyl: yn cynnwys taniadau odyn ysblennydd, o’r traddodiadol i’r arbrofol; baddonau o glai; crochenwyr sy’n canu nerth eu pennau neu sy’n cynnig dawns Indonesaidd yn gwisgo mwgwd serameg.  

Mae Moira Vincentelli yn Athro Emeritws a Churadur Serameg Ymgynghorol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi’n un o gyfarwyddwyr yr Ŵyl Serameg Ryngwladol, mudiad y mae wedi bod yn gysylltiedig ag ef ers y dechrau. Mae hi hefyd yn aelod o bwyllgor llywio’r CoCA.

Date: February 18, 2022