Mae’r stondinau masnach erbyn hyn yn rhan bwysig a gwerthfawr o’r Ŵyl Serameg. Maent yn cynnig cyfle unigryw i ymwelwyr i brynu deunyddiau ac offer yn uniongyrchol oddi wrth gyflenwyr ac mae nhw yn eu tro yn cael cyfle i gyflwyno ac arddangos cynnyrch a gwasanaethau newydd. ‘Rydym hefyd yn croesawu stondinau masnach o fudiadau serameg megis orielau a chyrsiau sy’n dysgu serameg a dylunio 3-D. ‘Rydym yn anelu at ddarparu amrywiaeth o stondinau masnach i ddiddori’n hymwelwyr yn cynnwys: cyflenwadau a deunyddiau serameg; gwasanaethau a gwybodaeth; cyhoeddiadau a llyfrau serameg, a llawer mwy! Mae’r ŵyl yn denu dros 1000 o ymwelwyr bob blwyddyn.