Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi derbyn gwobr Grant Mawr Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r cyllid hwn yn ein helpu i ddarparu sawl agwedd ar yr Ŵyl ac yn benodol cyfleoedd i ysgolion, myfyrwyr sy’n gweithio gyda chlai, crochenwyr amatur a hobi a’r gymuned leol. Byddwn yn cyhoeddi manylion yr holl gyfleoedd yn yr hydref felly cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf.