CYFLEOEDD
Gwobr Gwneuthurwyr Newydd Potclays a’r ICF 2019 (mewn cysylltiad â Sefydliad Celf Serameg Sanbao Jingdezhen)
Yn agored i seramegwyr a raddiodd yn ddiweddar neu raddedigion Celf Gymhwysol/Celf Gain sy’n gweithio gyda chlai ar ryw ffurf (o fewn 5 mlynedd ar ôl graddio gan gynnwys y rhai a fydd yn graddio erbyn haf 2019). Bydd pedwar gwneuthurwr yn cael eu dewis i gymryd rhan mewn cyflwyniad ac arddangosfa yn ystod yr ŵyl. Dyfernir preswyliad rhyngwladol i o leiaf un o’r rhain, cadarnheir y manylion yn fuan. Mae ceisiadau ar gyfer 2019 bellach ar agor, am ragor o wybodaeth gwelwch dudalen Gwobr Gwneuthurwyr Newydd Potclays.
GWOBR PRESWYLFA RYNGWLADOL STIWDIO SERAMEG KECSKEMÉT 2019
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y Stiwdio Serameg Ryngwladol (ICS) unwaith eto yn cynnig cyfle preswylio yn Kecskemét, Hwngari. Mae ceisiadau yn agored i BOB ymarferydd serameg yn y DU gan gynnwys rhai sydd wedi dod at serameg canol gyrfa neu’n hwyrach sy’n dymuno gweithio mewn amgylchedd cyfoethog a diwylliannol. Mae rhaglen Artist Preswyl ICS yn caniatáu i artistiaid weithio yng nghyd-destun gwlad a diwylliant gwahanol. Mae’r ICS yn ganolfan cyfnewid diwylliannol rhyngwladol, sy’n caniatáu i artistiaid weithio ochr yn ochr ag eraill o amrywiaeth o gefndiroedd cyfoethog ac amrywiol yn ddiwylliannol yn ogystal â gweithwyr proffesiynol a myfyrwyr celfyddydau lleol.
GWOBR PRESWYLFA RYNGWLADOL STIWDIO SERAMEG KECSKEMÉT 2017 (gyda’r ICF & Potclays)
Ch-D Becky Otter (Potclays), James Otter (Potclays), Rob Parr (enillydd), Steve Mattsion (ICS Hwngari)
Mae’r rhaglenni’n rhoi lle i artistiaid greu gweithiau newydd, arbrofi gyda syniadau arloesol, archwilio cyfeiriadau newydd yn eu gwaith ac ymchwilio i ffyrdd newydd a gwahanol o wneud. Anogir artistiaid i archwilio ein holl gyfleusterau i agor posibiliadau a chyfarwyddiadau newydd i’r seramegydd cyfoes. Gall artistiaid preswyl gyfnewid syniadau a phrofiadau trwy gyflwyniadau a thrafodaeth anffurfiol. Enillwyd gwobr 2017 gan Rob Parr. Gallwch ddarllen am ei brofiad preswyl ar ei wefan yma: Rob Parr Ceramics
Dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau: 30ain Ebrill 2019. Lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais isod:
NEWYDD!
Cystadleuaeth Ffilm Fer Top Pot Supplies a’r ICF
Ar gyfer 2019 mae’r Ŵyl Ryngwladol Serameg (ICF) yn cyflwyno cystadleuaeth ffilm newydd i’r rhaglen. Rydym yn gwahodd cyflwyniadau gan wneuthurwyr ffilm ar gyfer ffilmiau byr (15 munud ar y mwyaf) a’u prif ffocws yw serameg e.e. ffilmiau am y broses o wneud serameg, ffilmiau am grochenwaith neu seramegwyr fel pwnc, delwedd symudol/animeiddio lle mae serameg neu glai yn brif nodwedd. Mae ceisiadau ar agor i bob oedolyn dros 18 oed a gellir eu lleoli yn unrhyw le yn y byd. Bydd yr holl ffilmiau a ddewisir yn cael eu dangos fel rhan o ICF 2019 a bydd yr enillydd yn derbyn tocyn penwythnos i’r Ŵyl. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen Cystadleuaeth Ffilm Fer Top Pot Supplies a ICF.
Dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau: Mai 1af 2019
Rydym yn recriwtio o amgylch 30-40 o Gynorthwywyr Gŵyl bob blwyddyn, nid oes rhaid i chi fod yn fyfyriwr i fod yn Gynorthwyydd Gŵyl er bod y rolau hyn yn arbennig o fuddiol i fyfyrwyr gael profiad uniongyrchol o weithio gyda gwneuthurwyr enwog rhyngwladol. Gall Cynorthwywyr Gŵyl gymryd rhan mewn amrywiaeth o dasgau gan gynnwys sefydlu odynau, gorsafoedd gwaith, arddangosfeydd ac ati ac rydym yn croesawu myfyrwyr o ystod o sefydliadau a chyrsiau yn arbennig.
Mae ceisiadau Cynorthwywyr Gŵyl bellach ar gau, rhoddir gwybod i ymgeiswyr ganol mis Ebrill os ydynt wedi bod yn llwyddiannus.
CYFLEOEDD ERAILL I FYFYRWYR
Mae’r Ŵyl Ryngwladol Serameg wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr a graddedigion diweddar sy’n gweithio ym maes serameg. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i’r rheini sy’n astudio serameg trwy gyrsiau Dylunio Serameg a Chelf Gymhwysol, ond hefyd i’r rhai sy’n gweithio gyda chlai mewn dylunio 3-D neu Gelf Gain. Rydym yn ystyried anghenion myfyrwyr wrth raglennu’r digwyddiad, ac mae gennym weithgareddau a sgyrsiau penodol yn arbennig ar gyfer myfyrwyr. Gweler y rhaglen lawn am ragor o fanylion. Os ydych chi’n Sefydliad Addysg Uwch sy’n cynnig cyrsiau sy’n cynnwys serameg, ac yr hoffech i ni ymweld â nhw i drafod cyfleoedd i fyfyrwyr yn yr ICF, cysylltwch â ni.
Arddangosiadau Myfyrwyr (mewn partneriaeth â Potclays Ltd)
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan bob Prifysgol neu Sefydliad Addysg Uwch sy’n cynnal cyrsiau serameg ar hyn o bryd i enwebu dau fyfyriwr i roi arddangosiad o dechneg neu broses serameg. Bydd hyn yn digwydd mewn man gwaith pwrpasol mewn pabell fawr ar y safle yn ystod amseroedd a drefnwyd dros y penwythnos. Cynigir pedwar lle a bydd pob myfyriwr a ddewisir yn cael tocyn gŵyl, deunyddiau a lle gwaith am ddim.
Gweler Arddangosiadau Myfyrwyr am ragor o wybodaeth.
Mae ceisiadau ar gyfer 2019 bellach ar agor.
Mae gennym hefyd ddarlithoedd yn ystod yr ŵyl sy’n canolbwyntio ar gyfleoedd myfyrwyr gan gynnwys preswyliadau, hyfforddiant ac addysg, a symposiwm PhD ac Ymchwil arbennig dan gadeiryddiaeth Dr. Jo Dahn yn cynnwys cyflwyniadau gan fyfyrwyr PhD gwahoddedig. Am fwy o wybodaeth gweler Symposiwm Ôl-raddedig. Os ydych chi’n gweithio ar ymchwil yn y DU ac yr hoffech roi cyflwyniad am eich ymchwil, cysylltwch â ni: administrator@icfwales.co.uk
Bydd y manylion ar gyfer 2019 yn y rhaglen ddigwyddiadau.
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2023 all rights reserved.