logo

Arddangoswyr, Tanwyr, Darlithoedd


Mae pob gŵyl yn dangos amrywiaeth o ymwelwyr rhyngwladol sydd yn arddangos eu technegau ar y llwyfan neu yn adeiladu a thanio odyn ar faes Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, neu gymryd rhan yn rhaglen darlithoedd yr ŵyl. Mae’r arddangosiadau yn cymryd rhan yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau. Fel arfer mae yna ddau arddangoswr ar y llwyfan ar yr un adeg gyda’r ddau arddangosiad yn digwydd ar yr un pryd yn cael eu dangos ar sgrin fawr yn ben pellaf y llwyfan i sicrhau bod y gynulleidfa yn gallu dilyn y manylion i gyd. Mae’r arddangoswyr hefyd gyda safleoedd gweithio unigol ar y safle lle gall cynrychiolwyr rhyngweithio hefo nhw tra bod nhw’n gweithio. Mae yna gyfres o ddarlithoedd, sgyrsiau, trafodaethau, a ffilmiau trwy gydol y penwythnos sydd yn cymryd rhan yn y Sinema a’r Theatr. Caiff arddangoswyr hefyd eu gofyn i roi sgwrs hefo darluniau am eu gwaith dros y penwythnos fel rhan o raglen darlithoedd y penwythnos. Bydd Rhaglen yr Ŵyl 2021 yn cael ei ddiweddaru fel mae ymwelwyr yn cael eu cadarnhau – mae manylion o’r arddangoswyr 2019 o dan. Tanysgrifiwch i gylchlythyr yr ŵyl a dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y newyddion diweddaraf am ein rhaglen.